SL(5)365 - Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”).  Mae Rheoliadau 2017 yn nodi'r gofynion rheoleiddiol sy'n gymwys i ddarparwyr gwasanaethau penodol sy'n cael eu rheoleiddio o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Deddf 2016).  Y rhain yw gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel, gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd a gwasanaethau cymorth cartref. 

Mae'r diwygiadau yn cynnwys:

-      Mae rheoliad 4 yn gwneud nifer o ddiwygiadau i reoliad 2 o Reoliadau 2017 sy'n ymdrin ag amgylchiadau pan fo person wedi ei esemptio o'r gofyniad i gofrestru fel darparwr gwasanaeth cartref gofal.

-      Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2017 i bennu nad yw gofal nyrsio a ddarperir gan nyrs gofrestredig yn dod o fewn cwmpas gweithgaredd gwasanaeth cymorth cartref.

-      Mae rheoliad 8 yn ychwanegu gofyniad at reoliad 28 o Reoliadau 2017 ynghylch polisi a gweithdrefnau darparwr gwasanaeth ar gyfer cynilion plant.

Gweithdrefn

Cadarnhaol.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodwyd dau bwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Gwneir y Rheoliadau hyn yn rhannol o dan adran 27 o Ddeddf 2016. Mae adran 27(4) o Ddeddf 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori cyn gwneud rheoliadau o dan adran 27 ac mae'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gyhoeddi datganiad am yr ymgynghoriad. At hynny, mae adran 27(5) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod copi o'r datganiad cyhoeddedig hwnnw gerbron y Cynulliad.

Hyd y gwyddom, nid oes copi o ddatganiad o'r fath wedi'i osod gerbron y Cynulliad. Nodwn fod y Memorandwm Esboniadol yn darparu linc at grynodeb o ymatebion i'r ymgynghoriad ond nid yw darparu linc at ddogfen yn gyfystyr â gosod dogfen gerbron y Cynulliad.

Rydym yn cydnabod nad yw adran 27 o Ddeddf 2016 yn nodi pryd y mae'n rhaid gosod copi o'r datganiad cyhoeddedig gerbron y Cynulliad, ond byddem yn disgwyl iddo fod wedi cael ei osod yr un pryd ag y gosodwyd y Rheoliadau drafft er mwyn i’r Pwyllgor hwn a'r Cynulliad gael gwybodaeth cyn y ddadl a'r bleidlais yn y Cyfarfod Llawn - credwn mai dyna oedd bwriad y Cynulliad pan gymeradwyodd Ddeddf 2016, gan gynnwys adran 27(5).

Byddem yn croesawu eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pryd y caiff copi o'r datganiad cyhoeddedig ei osod gerbron y Cynulliad.

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Mae'r Rheoliadau drafft hyn yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad cadarnhaol, sy'n golygu na ellir eu gwneud (hynny yw, eu llofnodi) oni bai bod y drafft wedi'i gymeradwyo gan y Cynulliad.

Mae'r cymal llofnodi yn cynnwys enw teipiedig y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Julie Morgan) a fydd yn gwneud y Rheoliadau hyn. Er ein bod wedi cael cadarnhad nad yw'r Rheoliadau drafft wedi cael llofnod yn llaw'r Dirprwy Weinidog, credwn ei fod yn arfer deddfwriaethol da i beidio â chynnwys enw (hyd yn oed enw wedi'i deipio) yng nghymal llofnodi is-ddeddfwriaeth ddrafft, er mwyn osgoi unrhyw awgrym bod y drafft wedi cael ei lofnodi.

Nodwn fod hyn wedi digwydd mewn sawl darn o is-ddeddfwriaeth ddrafft yn ddiweddar. Felly, byddem yn croesawu eglurhad gan Lywodraeth Cymru pam mae enw wedi'i deipio wedi'i gynnwys (pan na fu'n arferiad i wneud hynny mewn is-ddeddfwriaeth ddrafft yn y gorffennol).

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb y llywodraeth i'r pwyntiau rhinweddau sy'n codi yn yr adroddiad hwn.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

8 Mawrth 2019